Arweinydd Cerdded Iach Hynaf
2 Maw 2009Mae’n bur debyg mai Charlie Berry yw’r arweinydd cerdded iach hynaf yng Nghymru a Lloegr.
Does dim ‘model safonol’ ar gyfer arweinwyr cerdded gwirfoddol Dewch i Gerdded Cymru; maent yn bob maint a siâp, ac o oedran amrywiol. Fodd bynnag, mae gennym le i gredu mai Charlie Berry o gynllun Walkabout Wrexham yw’r arweinydd hynaf o bosibl.
Fis Tachwedd diwethaf, dathlodd Charlie ei ben-blwydd yn 88 oed gyda the sypreis wedi’i drefnu gan ei gyd-arweinwyr cerdded.
Yn daid ac yn hen daid, mae Charlie nid yn unig yn arwain y teithiau cerdded iach chwe diwrnod yr wythnos ond hefyd, gyda’r ffrindiau mae wedi’u gwneud drwy gyfrwng y cynllun, mae’n mwynhau taith gerdded wythnosol hirach sy’n ryw 5 neu 6 milltir.
Ond nid felly mae wedi bod erioed.
Roeddwn yn cerdded gyda’r Crwydrwyr lleol am 20 mlynedd ond yna cefais glun newydd ac arthritis yn fy mhengliniau. Doeddwn i ddim yn gallu ymdopi ar y teithiau cerdded roeddwn wedi arfer â nhw ac roeddwn ar goll yn methu gwybod beth i’w wneud efo mi fy hun. Wrth lwc, fe glywodd fy ngwraig am Walkabout Wrexham. Ymunais ac yn fuan iawn roeddwn yn arweinydd cerdded! Charlie
Yn fuan wedi iddo ddod yn arweinydd cerdded, bu farw gwraig Charlie ac felly cynyddodd nifer y teithiau roedd yn eu harwain. Dydi Charlie ddim yn arwain bob dydd ond mae’n gweithredu fel arweinydd cerdded ar y cyd yn aml, gan gerdded yng nghefn y grŵp i sicrhau bod unrhyw broblemau’n cael eu canfod yn fuan ac yn cael sylw ar fyrder.
Mae therapi’r cerdded wedi bod yn fuddiol iawn i mi. Rwyf wedi gwneud ffrindiau rhagorol a nhw sydd wedi fy annog i gerdded ar deithiau hirach. Charlie
Mae Charlie wrth ei fodd yn cael mynd yn awr i’r lleoedd lle’r arferai grwydro.
Rwy’n iawn cyn belled â ’mod i’n cael ychydig o help dros y camfeydd. Ddoe, fe gerddais i 2,000 troedfedd ar fynyddoedd y Berwyn uwch ben Llangollen. Roedd yn niwlog yn y dyffryn wrth yr afon Ddyfrdwy ond wedi i ni godi uwch ben hynny, daeth yr haul i’r golwg. Charlie
Meddai Natalie Edwards, Cydlynydd Walkabout Wrexham:
Mae Charlie’n arweinydd cerdded arbennig iawn ac yn ysbrydoliaeth lwyr i bawb sy’n cerdded gyda’r cynllun. Mae Groundwork yn ffodus iawn o gael gwirfoddolwr mor ymroddedig a brwd. Mae Charlie nid yn unig yn helpu i arwain ar nifer o’r teithiau’n wythnosol ac yn fisol ond hefyd mae’n gwneud cyfraniad egnïol drwy helpu i arwain y cynllun drwy gyfrwng y Grŵp Llywio. Mae Charlie’n gwneud i gerddwyr, y rhai newydd a’r rhai mwy profiadol, deimlo bod croeso cynnes iddyn nhw. Mae bob amser yn eithriadol sirol ac yn esiampl ragorol o fanteision cerdded ac effaith gwirfoddolwyr ar lwyddiant unrhyw gynllun.
Lluniwyd Chwefror 09
Beth Sy'n Newydd
Mae Grantiau 2009/10 i raglen Dewch i Gerdded Cymru yn awr ar gael. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.

