Am Raglen Dewch i Gerdded Cymru
Mae defnyddio’r awyr agored yn ffordd wych o fod yn egnïol. Mae gan Gymru lawer o ofod gwyrdd naturiol, tirluniau golygfaol a pharciau gwledig. Nod lansiad Dewch i Gerdded Cymru yw cael mwy o bobl i ddefnyddio’r rhain yn amlach. 
Gan adeiladu ar lwyddiant rhaglen Cerdded Eich Ffordd at Iechyd (WW2H) Cyngor Cefn Gwlad Cymru, nod y fenter yw ymestyn y rhaglenni cerdded iach traddodiadol drwy ddarparu cyfleoedd o garreg y drws i’r mynyddoedd. Mae’n herio grwpiau i ddatblygu’r rhaglenni cerdded sy’n bodoli eisoes a chreu rhaglenni cerdded newydd, ac edrych ar ffyrdd newydd a blaengar o hybu cerdded i wella iechyd a lles.
Ers 2003, mae mwy na 22 o brosiectau cerdded wedi’u sefydlu ledled Cymru, gyda mwy na 10,000 o deithiau cerdded tywys wedi’u cynnal, mwy na 18,000 o gyfranogwyr wedi ymuno â hwy ac oddeutu 1,500 o wirfoddolwyr wedi’u hyfforddi fel arweinwyr teithiau.
Datblygwyd Dewch i Gerdded Cymru i gynnig cymaint mwy na dim ond teithiau cerdded iach traddodiadol. Nod y rhaglen hon yw hybu amrywiaeth o weithgareddau cerdded a fydd yn annog pobl segur i gymryd rhan yn y gweithgarwch drwy gyfrwng amrywiaeth o gyfryngau gwahanol, boed yn gerdded Nordig, cynyddu’r defnydd o lwybrau troed yng nghefn gwlad, datblygu llwybrau cyfeiriannu a gwella sgiliau mordwyo.
Chwaraeon Cymru wrth law i gefnogi prosiectau cerdded newydd a datblygu’r rhai sy’n bodoli eisoes, i ddarparu cyngor a chyfarwyddyd ynghylch popeth o hyfforddiant i yswiriant, monitro, rhwydweithio a gwerthuso a bod yn gyfrifol am ddosbarthu grantiau i brosiectau.Beth Sy'n Newydd
Mae Grantiau 2009/10 i raglen Dewch i Gerdded Cymru yn awr ar gael. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.

