Hafan
Croeso i wefan 'Dewch i Gerdded Cymru'. 
Mae Dewch i Gerdded Cymru yn fenter newydd ledled Cymru a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Chyngor Chwaraeon Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru a’r nod yw cynyddu nifer y bobl sy’n mynd ati i gerdded fel gweithgaredd rheolaidd.
Ffocws cyffredinol Dewch i Gerdded Cymru yw darparu gwybodaeth am gerdded yng Nghymru, yn benodol gysylltiedig â rhaglenni cerdded iach. Mae’r safle’n darparu gwybodaeth i chi am bethau sy’n amrywio o’r hyfforddiant sydd gennym i’w gynnig i’r rhaglen grantiau sydd gennym ar gael ar gyfer prosiectau lleol.
Fel ymateb i Her Iechyd Cymru a Dringo’n Uwch – ffocws cenedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gweithredu i wella iechyd a lles yng Nghymru – mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n galw ar grwpiau i gynyddu lefel y cerdded a chyfrannu at newid yn iechyd y genedl.
Bydd y safle’n datblygu yn ystod y misoedd sydd i ddod ac rydym yn gobeithio y daw’n adnodd defnyddiol ar gyfer unigolion sy’n dymuno bod yn fwy egnïol drwy gerdded, ac ar gyfer y rhai sy’n datblygu rhaglenni cerdded.
Byddem yn croesawu adborth am y safle newydd. Os oes gennych unrhyw sylwadau, anfonwch e-bost at letswalkcymru@scw.org.uk
Beth Sy'n Newydd
Mae Grantiau 2009/10 i raglen Dewch i Gerdded Cymru yn awr ar gael. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.

