Grantiau
Mae ‘Dewch i Gerdded Cymru’ yn darparu grantiau i sefydliadau a grwpiau ledled Cymru. Mae’r rhaglen yn ceisio edrych ar ffyrdd blaengar o hybu cerdded er mwyn gwella iechyd a lles. Mae’n rhaid i’r ceisiadau:
- Dangos sut fydd y prosiect yn cyfrannu at gynyddu cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion (dros 15 oed);
- Targedu’r bobl mwyaf segur a’r rhai fyddai’n elwa fwyaf o weithgaredd sy'n gwella iechyd;
- Targedu ardaloedd gyda'r anghenion fwyaf;
- Hybu defnydd cefn gwlad a defnyddio'r amgylchedd naturiol.
Pwy all wneud cais ?
Mae ‘Let’s Walk Cymru’ yn annog ac yn cefnogi prosiectau sy’n gweithio gyda grwpiau a sefydliadau eraill lle mae partneriaethau cymunedol wedi / yn mynd i gael eu sefydlu.
Gall y canlynol gyflwyno ceisiadau:
- Awdurdodau Lleol;
- Byrddau Iechyd Lleol;
- Cynghreiriau Iechyd;
- Grwpiau cymunedol cysylltiedig ag iechyd;
- Grwpiau cymunedol;
- Grwpiau gwirfoddol;
- Sefydliadau nad ydynt yn gwneud elw;
- Gweithdai / busnesau
Nid yw unigolion yn gymwys.
Lefelau Grantiau
Lefel 1: £1,001 - £5,000
Grŵp cymunedol, Cymunedau yn Gyntaf, mudiad gwirfoddol bychan, grwpiau yn gysylltiedig a grŵp targed arbennig
Lefel 2: £5,001 - £10,000
Ardaloedd cymunedol amryfal, grwpiau yn gysylltiedig a partneriaid amryfal a grwpiau targed.
Lefel 3: £10,001 - £15,000
Awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Lleol, mudiad gwirfoddol fawr
Mae'n rhaid i werth y grant fod yn gyfatebol â maint a chynnwys y prosiect. Bydd y dyfarniadau yn seiliedig ar allbynnau allweddol.
Mae Grantiau am 2008/09 ar gael nawr mewn rhaglen gynyddol. Nid oes dyddiad cau penodol.
Am wybodaeth bellach am y grantiau, llawrlwythwch y nodiadau cyfarwyddyd a’r ffurflen gais.
Fe’ch cynghorir i gysylltu ag Uwch-Swyddog Rhanbarthol i drafod eich cais cyn ei gyflwyno.
Beth Sy'n Newydd
Mae Grantiau 2009/10 i raglen Dewch i Gerdded Cymru yn awr ar gael. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.

