Prosiectau Ledled Cymru
Ceir mwy na 30 o brosiectau cerdded wedi’u sefydlu ledled Cymru. Sefydlwyd rhai prosiectau ers nifer o flynyddoedd drwy gyfrwng y rhaglen ‘Cerdded y Ffordd at Iechyd’ a chynigir nifer o deithiau cerdded tywys sydd wedi’u sefydlu ers amser maith ac sy’n denu cyfranogwyr yn rheolaidd. Mae cyflwyno ‘Dewch i Gerdded’ wedi rhoi cyfle i’r prosiectau hyn sydd wedi’u sefydlu, a phrosiectau newydd, dyfu a datblygu i ddiwallu anghenion pobl yn eu hardaloedd.
Mae’r prosiectau’n amrywio o ran maint o brosiectau cymunedol bychain i’r rhai ar gyfer yr awdurdod lleol cyfan.
Ceir manylion yr holl brosiectau cerdded drwy glicio ar yr ardaloedd ar y map. Mae mwy nag un prosiect mewn rhai ardaloedd.
Os ydych eisiau cynnwys manylion eich prosiect, anfonwch e-bost at letswalkcymru@scw.org.uk.
Beth Sy'n Newydd
Mae Grantiau 2009/10 i raglen Dewch i Gerdded Cymru yn awr ar gael. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.

