Pam cerdded ?

Y manteision:

Gall cerdded yn gyflym fod o fudd i’ch iechyd a’ch lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol. Mae’r manteision hyn o gymorth i chi:Lets Walk

• Gostwng a rheoli pwysedd gwaed;
• Cynnal neu golli pwysau;
• Gwella lefel eich colesterol;
• Lleihau’r risg o afiechyd ar y galon, strôc a’r clefyd siwgr;
• Cynyddu más yr esgyrn i oedi neu atal osteoporosis;
• Lleihau pwysedd a phryder;
• Gwella’r gallu i ganolbwyntio;
• Cynyddu hunanhyder;
• Ymdopi â thasgau bob dydd;
• Rhoi mwy o egni i chi a sicrhau eich bod yn cysgu’n well.

Os oes gennych unrhyw broblemau meddygol ac os ydych yn ansicr ynghylch faint o ymarfer corff ddylech fod yn ei wneud, siaradwch gyda gweithiwr iechyd proffesiynol am gyngor.

Yr awyr agored:

Mae amgylchedd naturiol Cymru’n cynnig cyfleoedd helaeth i elwa o fanteision cerdded. Ceir mwy na 33,000km o hawliau tramwy cyhoeddus yn y wlad, i’w harchwilio a’u mwynhau, yn cynnwys llwybrau troed, llwybrau / traciau cerdded a ffyrdd. Hefyd, mae gan Gymru barciau cenedlaethol eang, parciau gwledig, parciau trefol, gwarchodfeydd natur ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, coedwigoedd, llwybrau arfordirol a llawer, llawer mwy.

Mae llwybrau cerdded yn cynnig cyfleoedd i ni ddod i adnabod ein hamgylchedd ac archwilio ardaloedd newydd, o’r cymunedau rydym yn byw ynddynt i’r mynyddoedd a’r llwybrau arfordirol sy’n ein hamgylchynu. Gall bod allan yn yr awyr iach helpu i leddfu straen a thawelu eich meddwl.

Mae pobl o bob oed a gallu’n cael cyfle i ddatblygu agwedd bositif am oes tuag at iechyd a ffitrwydd drwy gamu allan i’r awyr agored ar garreg eu drws ac archwilio’r amgylchedd naturiol o’u cwmpas.

Beth Sy'n Newydd

Mae Grantiau 2009/10 i raglen Dewch i Gerdded Cymru yn awr ar gael. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.